Cymorth Llesiant NWMRA
Cefndir
Gall Aelodau’r Tîm ar draws y rhanbarth gyrchu cwnsela a chymorth seicolegol wedi’i ariannu i hyrwyddo llesiant ac adferiad ar ôl digwyddiadau trawmatig.
Gall Aelodau’r Tîm gysylltu â’r cwnselwyr neu’r seicolegwyr yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod, ac mae hon yn broses anhysbys.
Bydd y gweithiwr proffesiynol yn anfonebu NWMRA heb rannu unrhyw wybodaeth gyfrinachol. Cytunwyd y bydd aelodau’r tîm yn cael cynnig 6 sesiwn safonol, ond os yw’r gweithiwr proffesiynol a’r aelod o’r tîm yn teimlo bod angen mwy o sesiynau arnynt i gwblhau’r gwaith, yna gall y gweithiwr proffesiynol wneud cais am hyn.
Efallai y bydd Aelodau’r Tîm yn dewis cysylltu â chwnselwyr neu seicolegwyr i gwblhau prawf sgrinio llesiant ar ôl digwyddiad trawmatig, neu os oes rhywbeth yn digwydd yn eu bywydau yn gyffredinol (gall fod yn gysylltiedig â gweithgareddau'r tîm achub neu fywyd bob dydd) a allai effeithio ar wirfoddoli neu lesiant cyffredinol.
Beth yw ymateb arferol i drawma?
Mae profi’r symptomau canlynol am yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl digwyddiad trawmatig yn normal.

Os ydych yn parhau i brofi’r rhain ar ôl tua 3 wythnos, efallai yr hoffech gysylltu â gweithiwr proffesiynol ar gyfer prawf sgrinio llesiant, neu fe allech ddefnyddio’r adnodd canlynol:

Pa gymorth sydd ei angen arnaf?

Os ydych chi’n cael problemau iechyd meddwl cyffredinol:

Os ydych chi’n teimlo y byddech chi’n elwa o gwnsela sy’n ffocysu fwy ar yr awyr agored neu deithiau cerdded ymwybyddiaeth ofalgar, gall Belinda gynnig y canlynol:
Wyneb yn wyneb - Therapi Awyr Agored: Gyda dros 11 mlynedd o brofiad ôl-gymhwysol fel therapydd, rwy’n angerddol am fynd â fy ymarfer allan i’r awyr agored ac, i’r perwyl hwnnw, rwy’n ffocysu ar gynnig therapi Awyr Agored, a elwir hefyd yn Therapi Cerdded a Siarad - yn ardal yr Wyddgrug / Bryniau Clwyd.
Yn yr un modd ag y mae therapi dan do yn cynnig gofod i ni archwilio agweddau ar ein natur ein hunain, mae’r awyr agored yn gallu cynnig gofod amgen ym myd natur, lle gallem deimlo ein bod yn ymgysylltu’n well â’r broses hon. Fel arfer, gall therapi awyr agored ddigwydd mewn mannau fel parciau a gerddi trefol, parciau gwledig, coetiroedd, bryniau a dyffrynnoedd, ac weithiau ar draethau.
Mae’r un gwaith y gallech chi ei wneud mewn gofod dan do hefyd yn gallu cael ei wneud yn yr awyr agored, ac mae gweithio fel hyn nid yn unig yn cynnig manteision bod ym myd natur, ond rydym ni hefyd yn gweithio gyda’n hymatebion i natur a siâp a theimlad y dirwedd rydym ni’n cerdded drwyddi neu’n eistedd ynddi. Gall gweithio fel hyn arwain at archwilio natur profiadau a pherthnasoedd yn y gorffennol, neu’r presennol.
Nid yw cwnsela dan do neu o bell bob amser yn addas i bawb. I rai, efallai’r rheini sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored, neu’n teimlo bod ffurfioldeb y lleoliad dan do ychydig yn annymunol neu’n frawychus, gall mynd â sesiynau allan i leoliad naturiol lle gall y cleient a’r therapydd gerdded ochr yn ochr deimlo’n fwy priodol.
Mae llawer o bethau cadarnhaol am gymryd sesiynau yn yr awyr agored, yn enwedig yr endorffinau naturiol sy’n cael eu rhyddhau pan fyddwn yn treulio amser yn yr awyr agored ac yn symud ein cyrff. Mae gwaith ymchwil hefyd yn awgrymu bod symud, bod yn rhan o fyd natur ac ymwneud â byd natur yn helpu i reoleiddio’r system nerfol.
Natur fel Man Diogel... Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod symud, bod yn y byd naturiol, y tir rydym ni’n symud drwyddo, ac ymgysylltu ag ef, yn gallu bod yn gysondeb lle gallwn ni ddysgu profi teimladau o ymlacio, diogelwch a diogeledd - gofod lle gallwn ni ddysgu ffordd o ymgysylltu â ni ein hunain ac eraill sy’n teimlo’n ddiogel - man diogel. Drwy weithio fel hyn, gallwn feithrin gwytnwch, llesiant emosiynol, hyder a ffyrdd newydd o ymgysylltu ag eraill. Pan fyddwn yn cymryd amser i greu gofod i ni ein hunain yn y lleoliad hwn, mae’n cynnig ffordd i ni ddod o hyd i’r eglurder a’r egni i archwilio’r pethau hynny sy’n ein poeni, dod o hyd i ffyrdd newydd o symud ymlaen i gam nesaf ein bywydau, a theimlo cysylltiad cynyddol â’r tir a’r cymunedau rydym yn byw ynddynt.
Materion Ymarferol
Fy nghanolfan therapi awyr agored: ar gyfer therapi awyr agored, rwy’n gweithio ym Mharc Gwledig Loggerheads, o amgylch ac ymysg Bryniau Clwyd, gyda thref yr Wyddgrug i’r Dwyrain a Rhuthun i’r Gorllewin yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Sut fydd hyn yn gweithio? Rwy’n dechrau gyda sesiynau ar-lein, gan ddefnyddio MS Teams. Ar ôl ychydig o sesiynau, os yw’r ddau ohonom yn teimlo’n gyfforddus yn gweithio gyda’n gilydd, gallwn wedyn lunio cynllun i fynd â’r therapi i’r awyr agored...
Cerdded a Siarad: cyfarfod mewn safleoedd y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Bydd y llwybrau ar gyfer y sesiynau hyn naill ai’n gylchol neu’n llinol, sy’n golygu troi’n ôl hanner ffordd a mynd yn ôl i’r dechrau. Fi fydd yn penderfynu ar y llwybrau i ddechrau, ond dros amser byddwn yn cytuno arnynt gyda’n gilydd.
Cyfrinachedd: yn wahanol i therapi dan do, nid yw cyfrinachedd yn yr awyr agored mor hawdd i’w warantu ac, wrth i mi eich tywys drwy’r gwahanol fannau byddwn ni’n symud drwyddynt, mae’n dod yn rhywbeth y mae’r ddau ohonom yn rhannu ymwybyddiaeth ohono ac yn gyfrifol amdano. Os byddwn, fel sy’n digwydd weithiau, yn dod ar draws pobl eraill, byddaf yn rheoli’r sgwrs fel bod ein cyfrinachedd yn cael ei ddiogelu.
Manylion Cyswllt y Cwnselwyr
Gwenan Hughes
Pwllheli
Dwyieithog
Rhif Ffôn Symudol: 07824905072
Cyfeiriad e-bost: gmhughes33@gmail.com
Jayne Gabriel
Ardal Wrecsam
Rhif Ffôn Symudol: 07809473534
Cyfeiriad e-bost: jaynerowlands64@hotmail.co.uk
Jill Harrington
Porthmadog
Rhif Ffôn Symudol: 07918667245
Cyfeiriad e-bost: jillht4c@gmail.com
Meleri Jones
AR-LEIN YN UNIG
Cyfeiriad e-bost: meleriwyn111@gmail.com
Dwyieithog
Zuzana Baston
Aberystwyth
Rhif Ffôn Symudol: 07875703550
Cyfeiriad e-bost: me@zbtherapy.co.uk
Karen Aerts
Llandudno
Bay Counselling
Cyfeiriad e-bost: baycounselling@gmail.com
Belinda Gammon (therapi awyr agored)
Rhif Ffôn Symudol: 07851218014
Cyfeiriad e-bost: belinda@wayofmindfulness.co.uk
Manylion Cyswllt y Seicolegydd
Karen Hawkings
07817422275
Sut gall therapi seicolegol helpu rhywun sy’n cael trafferth gyda straen trawmatig?
Cyfrannwyd gan Karen Hawkings
Mae seicolegydd yn helpu rhywun sy’n dioddef o straen trawmatig drwy wneud y canlynol:
-
Deall y broblem
-
Creu diogelwch
-
Addysgu sgiliau ymdopi
-
Prosesu’r trawma
-
Eu helpu i symud ymlaen
Therapi sy’n ffocysu ar drawma
Pan fydd yr unigolyn yn barod, gall y seicolegydd ddefnyddio triniaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth fel:
-
Therapi Ymddygiad Gwybyddol (yn enwedig CBT sy’n ffocysu ar drawma)
-
Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR)
Mae’r dulliau hyn yn helpu’r unigolyn i wneud y canlynol:
-
Prosesu atgofion trawmatig yn ddiogel
-
Lleihau eu dwyster emosiynol
-
Newid credoau di-fudd (e.e. euogrwydd, ofn, cywilydd)
Therapi Seicolegol (Seicotherapi)
-
Triniaeth ddyfnach, fwy strwythuredig ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl.
-
Yn aml yn y tymor hwy ac yn archwilio patrymau sylfaenol, profiadau yn y gorffennol, neu brosesau anymwybodol.
-
Mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyflyrau fel anhwylderau gorbryder, iselder, trawma, anhwylderau personoliaeth.
-
Cyflwynir gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig, e.e. seicolegwyr neu therapyddion clinigol.
Enghraifft adnabyddus yw Therapi Ymddygiad Gwybyddol, sy’n helpu pobl i adnabod a newid ymddygiad a phatrymau meddwl negyddol.
Fel arfer, byddai seicolegydd yn defnyddio dull strwythuredig, cam wrth gam, wrth weithio gyda rhywun sy’n profi straen trawmatig (sy’n aml yn gysylltiedig ag Anhwylder Straen Wedi Trawma - PTSD).
Nid lleihau symptomau yn unig yw’r nod, ond helpu’r unigolyn i adennill ymdeimlad o ddiogelwch, rheolaeth a sefydlogrwydd.
Mae therapi seicolegol yn golygu gweithio gyda’r meddwl a’r corff.
Gweithio gyda’r meddwl
Gall trawma newid meddyliau, atgofion a chredoau. Mae seicolegydd yn helpu drwy wneud y canlynol:
-
Siarad drwy’r profiad mewn ffordd ddiogel
-
Nodi meddyliau di-fudd (e.e. “Dydw i ddim yn ddiogel” neu “Fi oedd ar fai”)
-
Eu disodli gyda rhai mwy cytbwys a realistig
Efallai y byddan nhw’n defnyddio dulliau fel Therapi Ymddygiad Gwybyddol i helpu i newid patrymau meddwl a lleihau gorbryder.
👉 Nod: gwneud meddyliau ac atgofion yn llai brawychus ac yn haws eu rheoli
🧘 Gweithio gyda’r corff
Mae trawma hefyd yn effeithio ar y corff - mae’n bosibl y bydd pobl yn teimlo tyndra, cryndod neu’n teimlo “ar bigau’r drain” drwy’r amser (ymateb i oroesi).
Mae seicolegwyr yn helpu i dawelu’r corff drwy ddefnyddio:
-
Ymarferion anadlu
-
Technegau ymlacio neu ddaearu
-
Helpu’r unigolyn i sylwi ar deimladau corfforol mewn ffordd ddiogel
Mae rhai therapïau fel Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR) hefyd yn cynnwys prosesau sy’n seiliedig ar y corff (fel symudiadau’r llygaid) i leihau dwyster atgofion trawmatig.
👉 Nod: lleihau adweithiau straen corfforol a theimlo’n ddiogel eto
-
Gwaith meddwl → “Beth ydw i’n ei feddwl?”
-
Gwaith corfforol → “Beth ydw i’n ei deimlo’n gorfforol?”
-
Y ddau gyda’i gilydd - gwella ar ôl trawma
