top of page
Oggi3.JPG
NWMRA Text Welsh V2.png
  • Facebook

Ffurfiwyd y sefydliad ambarél ar gyfer chwilio ac achub yng Ngogledd Cymru ym Mai 1973.

 

Rydym yn elusen gofrestredig, a ariennir gan gyfraniadau gwirfoddol yn unig - mae'r naw tîm sy'n aelodau yn gwasanaethu rhanbarth Gogledd Cymru gyfan, un o ranbarthau prysuraf y DU.

​

Mae timau Achub Mynydd yn cael eu galw allan gan yr heddlu, drwy'r system 999, i gynorthwyo'r gwasanaethau statudol. Mae CAMGC yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Hofrennydd Achub Gwylwyr y Glannau i ddarparu gwasanaeth achub gwirfoddol 24/7.

​

Mae'r timau'n annibynnol, ond mae CAMGC yn cydlynu datblygiad materion gweithredol megis cyfathrebu radio, yswiriant a hyfforddiant meddygol, yn ogystal â chydgysylltu ehangach ar ddigwyddiadau mwy. Mae hefyd yn dosbarthu i'r timau unrhyw roddion neu gymynroddion a dderbyniwyd.

​

Mae CAMGC yn helpu i sianelu cyfathrebiadau i dimau, eu haelodau a'r corff dros Gymru a Lloegr -  Achub Mynydd Cymru a Lloegr. Rydym hefyd yn helpu i gydlynu rhwng y timau er budd pawb, gan ddysgu o'r profiadau a rennir.

​

Mae'r timau ar gael 365 diwrnod y flwyddyn, ym mhob tywydd, i helpu'r rhai mewn angen.

NWMRA Text Welsh V2.png
Dial 999 Welsh.png
bottom of page