top of page

Arhoswch yn Ddiogel

AdventureSmart-UK-r12-export-11.jpg

Cyngor i Gerddwyr a Dringwyr

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

Rydym wedi partneru gyda 'Adventure Smart' i grynhoi cyngor ar gyfer mwynhau'r awyr agored yn ogystal â disgrifio rhai o’r mannau mwya' poblogaidd o gwmpas Gogledd Cymru. Cliciwch ar y ddolen Cymru | AdventureSmartUK am ragor o wybodaeth.

​

Ffonau Symudol ac Achub Mynydd

​

Cyngor i Ddefnyddwyr

​

Does dim dwywaith fod defnydd o ffonau symudol wedi achub bywydau ym mynyddoedd Prydain. Gorau po gyntaf y bydd timau achub yn cael gwybod am ddigwyddiad, gorau oll yw'r tebygolrwydd o adferiad cyflym a llwyr i'r claf. Mae'r wybodaeth isod yn ganllaw i'r defnydd priodol o ffôn symudol

​

Pryd i ddefnyddio

 

  • os ydych chi neu aelod o'ch grŵp yn cael anaf sydd wir angen cymorth tîm achub mynydd.

  • os byddwch yn dod ar draws rhywun sydd wedi cael anaf sydd angen cymorth tîm achub mynydd.

  • os yw un o'ch grŵp wedi gwahanu o weddill y grŵp a'ch bod wedi gwneud pob ymdrech i'w darganfod ond wedi methu

  • os ydych am adrodd eich bod wedi gweld neu glywed unrhyw alwadau cyfyngder a adnabyddir yn rhyngwladol.

  • os ydych yn dymuno hysbysu rhywun am newid cynllun (nid galwad 999)

​

Pryd i beidio â defnyddio

​

  • Peidiwch â dibynnu ar y ffôn symudol yn unig fel dyfais diogelwch; mae ein mynyddoedd yn anghysbell ac mae'r signal yn aml yn wael neu allan o gyrraedd

​

Sut i ddefnyddio

​

Yn gyntaf, gwnewch nodyn o'r holl fanylion perthnasol

  • Disgrifiwch eich Lleoliad yn ddelfrydol gan ddefnyddio cyfeirnod grid, fel arall y bydd cyfesurynnau GPS neu 'what3words' yn ein helpu

  • Enw, rhyw ac oedran y rhai sydd angen cymorth

  • Natur y digwyddiad

  • Nifer y bobl yn y grŵp a'r pen eu taith arfaethedig

  • Y rhif ffôn symudol sy'n cael ei ddefnyddio

  • Cadw batri: diffodd WiFi a bluetooth, troi ymlaen modd arbed batri, lleihewch ddisgleirdeb y sgrin, a dim ond troi gwasanaethau lleoliad a data symudol ymlaen pan fo angen (e.e.. wrth lywio neu pan fydd timau achub mynydd yn gofyn am eich lleoliad naill ai gan ddefnyddio ap neu wrth glicio ar linc mewn neges destun gan Achub Mynydd sy'n darganfod eich lleoliad)

  • Cadwch y ffôn yn sych ac yn gynnes

​

Ffoniwch 999 a gofynnwch am yr Heddlu

 

  • Sicrhewch eich bod yn dweud wrth y cysylltydd eich bod angen Heddlu Gogledd Cymru

  • Pan fyddwch wedi'ch cysylltu ag ystafell reoli'r heddlu, sicrhewch eich bod wedi eich cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru. Os nad ydych, yna sicrhewch y bydd y wybodaeth yn cael ei throsglwyddo atynt

  • Eglurwch natur y digwyddiad, gan roi'r manylion a baratowyd gennych yn flaenorol

  • Peidiwch â newid eich lleoliad nes i'r tîm achub mynydd perthnasol gysylltu â chi - byddent yn cyfarwyddo eich symudiadau nesaf

  • Os oes rhaid i chi wneud galwad 999 arall, ailadroddwch y uchod

3 questions welsh.png
bottom of page